Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/47

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Agoryd llwybrau gwyn i feib y bryniau
Ymheulo yn neuaddau'r addysg oreu.
Mae'r byd yn y Deffroad; rhaid i'r gwron
Sydd yn dirgelu'r Deiffro yn ei galon,
A fyn adnabod neges cyfrinachau
Sy'n siarad yn ei ysbryd, groesi'r ffiniau,
A thramwy mewn trigfannau anghynefin,
Cysegru'r ddaear newydd ag allorau
Yw llwybr diwygwyr byd i greu cyfnodau,"

meddai Dyfnallt yn ei bryddest odidog, a dyna wnaeth Tom Ellis—" agoryd llwybrau gwyn i feib y bryniau." Y mae Cymru yn llawnach heddyw o bregethwyr, athrawon, beirdd, gwyddonwyr, ac athronwyr, &c., ar ol i'r gwron o Gynlas agor ei lygaid i angen ei wlad, rhoi lleferydd i'w argyhoeddiad, a mynnu cael ei britho ag Ysgolion Canolraddol. Bu'n gyfrwng i wneud gemau o dlodion; i dynnu allan wroniaid o gilfachau a cheunentydd, a gwneud gwladgarwyr ac ysgolorion o werinwyr tlodion Cymru. Y mae cynnyrch Ysgolion Canolraddol Cymru yn