Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/48

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

binaclau anrhydeddus yma ac acw ar hyd a lled y byd!

Gwaith anodd ydyw cychwyn cyfnod newydd yn hanes gwlad, a gwaith anodd ydyw symud gwerin anllythrennog. Nid dall i wirioneddau fel hyn oedd Tom Ellis pan yn ymdrechu dros ei wlad, ond yn cael ei yrru yr oedd gan angerdd ei gariad tuag ati. Penderfynodd a gorchfygodd ! Brwydrodd a chafodd fuddugoliaeth!

"A oes un ag y mae anhawsterau yn ei wangaloni—un a wyra i'r storm ? Ychydig a wna hwnnw. A oes un a orchfyga? Dyna ddyn na fetha byth," meddai Hunter. Gwr o'r nodwedd yna ydoedd ein gwrthrych—un i ORCHFYGU.

Yr oedd ei dueddfryd lenyddol yn adnabyddus drwy Gymru—daeth i'r golwg yn fore ynddo. Darllennai glasuron coethaf y Gymraeg pan yn ieuanc, ac fel yr addfedai o ran ei farn a'i chwaeth, eangai cylch ei ddarlleniad. Yr oedd yn llenor cyn bod yn ysgolor, ond daeth yn