Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/50

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Mr. Ellis wedi bod yn un nodedig. Cododd o ganol bryniau sir Feirionnydd, ac ni chafodd fanteision addysg arbennig iawn. Cymry oedd ei deulu. Trwy ei ewyllys gref, a'i ddeall anghyffredin, gweithiodd ei hunan ym mlaen i un o'r lleoedd blaenaf yn y wlad. Yr oedd wedi cael ei benodi yn Brif Chwip Ryddfrydol yn y Senedd. Yr oedd yn dda ganddo ddweyd ei fod yn cael ei barchu gan y Ceidwadwyr oherwydd purdeb ei amcanion a'i degwch mawr.......Yr oedd Mr. Ellis am i bawb gael cyfranogi o'r addysg oreu bosibl. Yr oedd yn gyfaill gwirioneddol i addysg, ac yn neilltuol Coleg Gogledd Cymru."

Y mae ei wasanaeth i lenyddiaeth ei wlad yn llawer eangach nag y tyb llawer un. Pan yn Aberystwyth bu yn olygydd y cylchgrawn cyntaf a fu ganddynt. Enw y cylchgrawn hwn oedd The Gap, ac ysgrifennodd lawer iddo ei hun. Bron na ellir dweyd ei fod wedi ysgrifennu yr oll iddo. Cyfoethogodd golofnau newyddiaduron Cymru â'i ysgrifell, a chafodd gyfle da i ddatblygu ei dalent pan yn