Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/51

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lled ieuanc. Gwleidyddiaeth oedd yn myned a'i fryd yr adeg hon, a phan yng Nghaerdydd ysgrifennodd lawer iawn i newyddiaduron. Tua diwedd y flwyddyn 1884 ysgrifennodd gyfres o erthyglau i'r Goleuad, a. swm a sylwedd yr ysgrifau hyn oedd beirniadu yn llym yr Aelodau Seneddol Cymreig. Ymddengys nad oedd eu calonnau yn ddigon gwresog gyda phynciau a berthynai i Gymru ganddo ef.

Ar ol hyn, ysgrifennodd o dro i dro i'r South Wales Daily News ac i'r Carnarvon and Deribigh Herald, ac yr oedd min deifiol ar yr ysgrifau hyn. Tua'r adeg hon buwyd yn meddwl am gychwyn newyddiadur Seisnig yn sir Feirionnydd, a meddyliodd yntau am ymgymeryd â'i olygiaeth. Yn anffortunus syrthiodd y cynllun i'r llawr, ac nid bychan a fu ei siomedigaeth yntau.

Tra yn aros gyda Syr J. Brunner, ysgrifennodd lawer i'r South Wales Daily News, yn disgrifio'r Senedd. Manteisiodd