Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/52

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

newyddiaduron eraill arno hefyd yn y cyfeiriad hwn. Yn y flwyddyn 1886, bu'n ysgrifennu o blaid Ymreolaeth, ac wrth gwrs yr oedd yn erbyn Chamberlain ac o blaid Gladstone. Hefyd, bu'n ymgodymu â rhai o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd a chadwodd ei dir yn dda.

Er cymaint a gyfoethogodd ar newyddiaduron Cymru, &c., dichon mai ei orchestwaith llenyddol oedd golygu cyfrol o weithiau Morgan Llwyd, ac ni ellir prisio ei wasanaeth i'r genedl yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd yn edmygwr dihafal o Forgan Llwyd, ac y mae cyd-darawiad rhyfedd wedi digwydd yn hanes y ddau. Bu'r ddau farw yn ddeugain oed!

Syniad arall a gafodd fodolaeth yn ei feddwl ef oedd cael Llyfrgell Genedlaethol. Yr oedd hwn yn fater mor agos at ei galon fel y dywedodd ei fod yn barod i roddi £100 at y symudiad os deuai rhai eraill ym mlaen yr un fath. Bu'n hyrwyddwr i addysg Cymru ac yn noddwr i'w llenyddiaeth.