Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/53

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IV
FEL CRISTION

"Ni ddiwraidd pren gwyrennig,
Ni chrina, ni freua'i frig;—
Byw'n gymwys, heb hen gamau
A bair i hil gwr barhau."
—Wiliam Llyn.

"A good character is a coat of triple steel, giving security to the wearer, protection to the oppressed, and inspiring the oppressor with awe," meddai Colton un tro, ac y mae yn wirionedd gwerth meddwl am dano. Dywed Emerson mai y dyn a chymeriad da ganddo ydyw "Canolbwynt y dylanwadau uchaf i bawb nad ydynt ar yr un lefel." Yr oedd gan Tom Ellis fwy o feddwl o'i gymeriad nag o'i sedd yn Nhy'r Cyffredin, ac yng ngrym y cymeriad iach hwn y dyrchafwyd