Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ef mor uchel. Yn ystod ei daith ar hyd y llwybr o'r bwthyn Cymreig i Dy'r Cyffredin at ymyl Prif Weinidog Prydain Fawr, ni anghofìodd grefydd ei dadau, na chyrddau crefyddol Cefn Ddwysarn. Gallai barchu y cyfarfod gweddi gystal os nad yn well na Thy'r Arglwyddi. Gwyn a sanctaidd a fu ei fywyd o'i gryd i'w fedd, a gellid dweyd am dano fel y dywedodd Daniel de Foe am Dr. Samuel Annesley:—

"His pious course with childhood he
began,
And was his Maker's sooner than his
own."

Ymagorodd ym moreu gwyn ei fywyd yn flodyn prydferth a phersawrus. Un o'i nodweddion amlycaf a phennaf oedd purdeb cymeriad. Ni allai fod yn fodlon os na fyddai bur i bobpeth—pur i'w grefydd, pur i'w wlad, pur i draddodiadau ei hynafiaid, a phur i'r gwirionedd ac i Ymneilltuaeth. Oherwydd fod ei