Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galon mor bur, a'i ysbryd mor grefyddol, ymddygai fel boneddwr ymhob amgylchiad. Parchai y tlawd fel y cyfoethog, y gweithiwr yn ogystal a'r pendefig. Dyna hanes y cymeriad sydd yn sugno maeth a nerth i'w wreiddiau o'r Anweledig, ymhob oes. Nod uchaf ei fywyd oedd hunanymwadu llawer, a gwneud daioni. Anodd ydyw dweyd pa un ai am yr hyn a wnaeth ynte am yr hyn ydoedd y carodd Cymru ef. Rhaid i'w wlad gydnabod ei fod yn ffrynd a chymwynasydd i'r werin, yn gyfaill calon i addysg a llenyddiaeth, a thrwy'r naill a'r llall wedi ennill edmygwyr ymhlith pob sect a phlaid; eto, braidd nad ydym yn gogwyddo i ddweyd mai am yr hyn ydoedd y carodd Cymru— Gwlad y Diwygiadau—ef. Yr oedd yn Dywysog Cristionogol! Yr oedd yn Gristion cyn bod yn ysgolor a gwleidydd, a hynny a roddodd orsedd iddo yng nghalon ei wlad.

Ffynnon ddyfnaf ei enaid oedd ei grefyddolder, ac nid ychydig ydyw rhif y