Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/56

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhai a'i hedmygodd am hynny. Y mae'n wir ei fod yn Fethodist o'r Methodistiaid, ond yr oedd yn fwy o Gristion. Cafodd crefydd fwy o groeso yn ei galon nag a gafodd enwadaeth. Yr oedd yn ormod o Gristion i farw—y mae ei fywyd gwyn yn llefaru o hyd. Yr oedd yn ei gymeriad lawer o brydferthion sant dyrchafedig ac urddasol. "Baich ei anerchiad y tro diweddaf y clywais i ef yn siarad yn gyhoeddus," meddai Mr. Thomas Jones, Bryn Melyn, cydddiacon ag ef, "oedd cael Cymru yn lan, Cymru yn bur, ac O! fel y pwysai am gael ieuenctid yn bur a glân o ran eu moesau.,"

Credai Tom Ellis fod gan grefydd le yn ffurfiad cymeriad a bywyd cenedlaethol. Dyn ieuanc oedd o argyhoeddiadau crefyddol dyfnion. Dywedodd Dr. Hamilton,—" Fod pawb sydd yn gydnabyddus â hanes y byd, neu y rhai sydd wedi darllen hanes dynion enwog yn barod i addef mai yr aelwyd sydd a'i dylanwad fwyaf yn ffurfio y cymeriad." Ac y mae