Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/57

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyn yn wirionedd i raddau pell iawn yn hanes Tom Ellis, gan ei fod wedi ei fagu ar aelwyd grefyddol yn swn adnodau a phenhillion. Temtir ni i ddifynnu ychydig linellau o waith Dyfnallt iddo ar y pen hwn gan eu bod mor brydferth:—

"Ynghanol swyn y symledd hyn
Ymwêai beunydd am ei ysbryd,
Agorai llyfr ei fywyd gwyn
I gadw argraff ei gylchynfyd.

Fel doi y newydd wawr bob dydd,
Doi gwawrddydd newydd dros ei fywyd,
Ac addewidion Cymru Fydd
Ddechreuant ganu yn ei ysbryd."

Cychwynnodd ei yrfa yn y Gobeithlu, y Seiat, a'r Ysgol Sul. Yr oedd wedi ei "hyfforddi ymhen ei ffordd," ac ni ymadawodd â'i grefydd. Gwyddai yr Ysgrythyr er yn fachgen, ac ni ymadawodd â llwybrau y saint. Ni ellir cael dim cryfach am gymeriad dyn na geiriau rhai fu'n byw agosaf ato, a dyma eiriau un oedd yn ei adnabod yn dda, sef Mr Robert Evans, Crynierth:—