Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/60

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn nau gyfnod ei fywyd. Arhosodd gyda'i rieni yn ei gyfnod cyntaf, a phwysodd ar ei Dduw yn ei gyfnod olaf.

Yr oedd gras wedi ireiddio cymaint ar Tom Ellis, yn ychwanegol at ei dynerwch naturiol, fel nad allai ddweyd pethau bryntion, ac yr oedd ei fywyd yn gyfryw ag a roddai syniad uwch am fywyd i rai oedd yn byw o'i amgylch. Cyfunodd y bywyd crefyddol a gwleidyddol gyda'u gilydd, ac ni thynnodd anrhydedd y naill a'r llall oddiarnynt wrth wneud hynny. Ni allai ond dyn ysbrydol—dyn Duw yn unig—roddi argraiff mor ddofn ar ei gydnabod ac ar ei genedl açr a wnaeth ein gwrthrych. Nid gogoniant yn y pellder oedd gogoniant ei fywyd ef, ond gogoniant wrth ei ymyl hefyd. Yr oedd ei fywyd yn ddisglair nid yn ei farw yn unig, ond yn ei fyw hefyd.

Meddyliodd unwaith am fyned i'r weinidogaeth, ac nid yw hyn yn beth i synnu ato; bu yn pregethu unwaith o leiaf, ar nos Sul, yn Finchley. Ei destyn