Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/61

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr adeg hon oedd: "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw," a thraethodd yn effeithiol, gan fod y gwirioneddau a gyflwynai yn argyhoeddiad iddo. Safai yn gadarn dros wirionedd, cyfiawnder, ac uniondeb, ond nid oedd yn fyr o gariad wrth wneud hyn: llifai ei rinweddau yn aberoedd iach oddiwrtho. Yr oedd gymaint o swyn yn ei gymeriad fel y dyrchafai pob symudiad cymdeithasol yng ngolwg y wlad os byddai yn gysylltiedig ag ef. Tystiodd un gwr ddydd ei farwolaeth, na chlywodd ef air erioed yn dod dros wefusau Tom Ellis, yn ei gylchoedd cymdeithasol, nad oedd yn deilwng i'w adrodd yn y Set Fawr. Tystiolaeth ardderchog yw hon am gryfder ei gymeriad, onide?

Er ei fod wedi marw'n ieuanc bydd byw yn hir ar bwys ei fywyd pur, a'i gymeriad dilychwin. Er ei fod wedi ei roddi i orffwys mewn bedd y mae ei ddylanwad yn aros. Esgynnodd i ben pinacl uchel gyda'i gymeriad gwyn, ac nid oes fesur ar eangder perarogl hyfryd ei fywyd