Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/62

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd yn ormod o foneddwr Cristionogol i droi ei gefn ar yr eglwys fechan y magwyd ef ynddi, ac ni lwyddodd urddasolrwydd y cylch y troai ynddo yn ei gysylltiadau gwleidyddol i'w suro at y fangre ddistadl. Edrychai dynion mwyaf defosiynol y wlad i fyny ato fel crefyddwr, ac yr oedd yn ddigon dewr i benlinio ar lawr Ty'r Cyffredin. Cariai ei grefydd gydag ef i bobman: cadwodd ei grefydd heb ei llychwino, ac ni feiriolodd ei chadernid yng ngwyddfod pendefigion.

Yr oedd yn ddigon o Gristion i roddi ei ysgwydd o dan bob symudiad oedd a'i amcan i ddyrchafu dynoliaeth syrthiedig. Cefleidiodd ddirwest pan yn ieuanc. Tua'r flwyddyn 1863, sefydlwyd Cymdeithas Cynhildeb a Sobrwydd yn Llandderfel, ac yr oedd ef yn un o'r aelodau cyntaf. Yn ei farwolaeth collodd byddin dirwest un o'i thywysogion pennaf. Carai ei gyd-ddyn ymhob amgylchiad, a hoffai ei godi i fyny. Dywedodd Proffeswr Angus fod y dyngarwch Cristionogol hwn