Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/63

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynddo yn amlwg iawn pan oedd yn efrydydd yn Aberystwyth. Profodd iddynt yno mai bywyd hunanymwadol y Cristion oedd ei un ef, ac mai gŵr o wasanaethu ei gyd-ddyn a'i wlad oedd y Cristion.

Ni fyddai yn unman yn hapusach na chyda'r saint, yn neilltuol hen seintiau gwledig a chywir capel Cefn Ddwysarn.

Ar fur ysgol yn yr Almaen y mae'r geiriau a ganlyn yn gerfiedig, ac oddiwrth ei fuchedd lan a'i fywyd dilychwin gallem feddwl eu bod wedi eu cerfio ar galon ein gwrthrych: -

"Pan gollir cyfoeth; 'does dim yngholl, Pan gollir iechyd, mae rhywbeth yngholl, Pan gollir cymeriad, mae'r oll yngholl."

Cymeriad ac nid medr all roddi urddas ar wlad a’i dyrchafu. Unwaith y cyll gwerinwyr Cymru eu Crist o'u bywyd gwlad ar y goriwaered fydd eu tiriogaeth. Ni ellir dyrchafu gwlad os bydd ei phlant yn sarnu Saboth Duw; rhodded y