Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/64

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gweithiwr gonest ei le i Dduw, fe rydd Duw ei le iddo yntau. Gŵr fel Tom Ellis, ac ysbryd Crist lond ei galon yn parchu ei Saboth a'i ddeddfau, a all ddyrchafu gwerin onest a llafurus Cymru, ac nid arweinydd di-Dduw a di-barch o'i ddeddfau sanctaidd. Duw yng nghyntaf a dyn wedyn; mynn rhai y dyddiau hyn roddi dyn yng nghyntaf a Duw yn ail. Nid diwrnod i ddadleu hawliau dyn ydyw y Saboth, ond diwrnod i ddadleu hawliau Duw. Dyna gryfder Tom Ellis, a chymeriadau o'r fath yn unig a all ennill i werin Cymru ei hiawnderau.