Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/66

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V
TEYRNGED CENEDL A DYLANWAD BYWYD

"Saif cenedl weddw uwch y bedd yn syn
Mewn galar-wisgoedd o och'neidiau dwys;
A disgwyl codi o'i hanwylyd fyn i gyffro tannau'i chalon sydd dan bwys
Cyfaredd marwol beunydd wrth y bedd,
A'i gwerthfawr nard ' yn perarogli'r fan,
Collodd y wawr pan gollodd hi ei wedd, -
Breuddwydia y try'n ddydd pan gwyd i'r lan."
DYFNALLT.

"Os cerfiwch eich enw drwy garedigrwydd, cariad, a thrugaredd ar galonnau y bobl y deuwch i gyfarfyddiad â hwy y naill flwyddyn ar ol y llall, ni anghofir chwi byth," meddai Mrs. Ann Royall, ac y maent yn eiriau sydd yn cael eu gwireddu gyfnod ar ol cyfnod yn hanes y byd. Gweithiodd Tom Ellis y cyngor hwn allan