Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/67

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn ei fywyd, ac yn ei farwolaeth rhoddodd ei genedl deyrnged o barch iddo am hynny. Dyna a wna y cymeriad ymroddedig bob amser—ennill edmygedd y llu. Dichon y bydd iddo wrth gerdded llwybr uniondeb dramgwyddo rhai, ond ymostynga y cyfryw un i roddi teyrnged briodol o barch i'r cymeriad a gyflawna ei ddyledswydd pan ddaw hynny i'w ran. Y mae'r cymeriad gonest a'r un a ymrodda o ddifrif i gyflawni ei ddyledswyddau, yn sicr o orchfygu rhagfarn.

Danghoswyd ddydd angladd ein gwrthrych pa mor ddwfn yr oedd wedi suddo i galonnau ei gydwladwyr. Cafodd deyrnged tywysog, a theyrnged a wir haeddai. Gŵr oedd Tom Ellis a wnaeth bopeth yn iawn, a hyn a dynnodd y miloedd i Gefn Ddwysarn pan roddwyd ei weddillion i orffwys. Amcangyfrifid fod tua deng mil yn ei angladd Pwy o blith gwerinwyr a gafodd y fath angladd? Yr oedd yn alar gwirioneddol a'r awydd i roddi parch iddo yn un dwfn.