Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/70

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddwysarn, prin y buasai neb yn meddwl fod mwy nag un enwad crefyddol yng Nghymru; ni fuasai neb yn coelio fod mwy nag un blaid wleidyddol yn Senedd Prydain Fawr, ac ni buasai neb yn meddwl fod gwahaniaeth barn ar bynciau gwleidyddol yn Sir Feirionnydd. Yr oedd dagrau pawb yn cael eu tywallt i'r un goetrel. Daeth y leddf-gwyn o wahanol ffynhonellau, ac ni allasai ond y cymeriad, y gwladgarwr, a'r gwleidydd gwirioneddol ennill y fath deyrnged.

Yr oedd angladd ein gwrthrych yn un nodedig. Yno yr oedd yr uchelwyr a'r gwerinwyr cyffredin wedi cyd-gynnull; cynrychiolaeth o bob plaid wleidyddol, pob enwad crefyddol, cyfoedion bore oes, cyd-efrydwyr yn yr ysgolion a'r colegau, ynghyda diwygwyr gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol. Yr oedd y pulpudau y telid gwarogaeth i'r cymwynasydd mawr hwn cyn lleted a Chymru.

Yr un adeg ag y cynhelid gwasanaeth yn y capel yn y Bala, lle'r oedd gweinidogion