Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gwleidyddion o bob gradd, yr oedd gwasanaeth arall yn cael ei gynnal yn St. Margaret, Llundain, ac yno gwasanaethid gan Ganon Wilberforoe, Caplan Tŷ'r Cyffredin, a Deon Farrar. Danghosai'r cyfarfod diweddaf pa beth a fu dylanwad y Cymro syml o Gynlas yn seddau uchaf y cylch gwladol. Hwyr yr un dydd cynhelid gwasanaethau mewn amryw leoedd ar hyd a lled y wlad. Hefyd, cynhelid gwasanaethau coffa iddo yng ngwahanol Golegau y wlad, ac aml oedd y dagrau a ollyngid ynddynt. Ymunodd Cynghorau Gwladol ein gwlad hefyd i ddatgan eu parch i'w fywyd a'i waith.

Uchel oedd y deyrnged a delid iddo ymhobman, ond gofod a ballai i ni ymdroi gyda'r oll. Wele deyrnged Mr. J. Issard Davies, Caernarfon, mewn cyfarfod a fu yno gan Lywodraethwyr yr Ysgol Sir–

"Bydd marwolaeth Tom Ellis yn golled bersonol i bobl Cymru 'ar wahan i blaid neu gredo. Efe oedd blaenffrwyth