Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/73

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o'u cymharu â chymeriad glân? Dynion y cymeriadau pur sydd wedi gadael eu dylanwad ar y byd, a hwy ydyw'r cyfryngau wedi bod i ddyrchafu dynoliaeth. Beth a fuasai hanes a sefyllfa foesol amryw wledydd onibai am y cymeriadau purwyn a fu ynddynt fel heuliau yn taflu eu pelydrau llachar yn eu cylch? Y mae Tom Ellis yn huno yn naear Cefn Ddwysarn, ond y mae dylanwad ei fywyd yn aros gyda ni. Os ydyw y bedd bychan ger y Bala yn ddigon i guddio ei gorff, nid yw Cymru yn ddigon mawr i gladdu ei ddylanwad. Y mae ef yn fyw ar ol marw. Nid llawer sydd felly. Y mae llawer wedi marw er yn fyw. Marw i fyw wnaeth ef tra y mae llawer yn byw i farw. Y mae pethau bach a phethau mawr ei fywyd yn siarad wrthym heddyw. Cenhadwri sydd yn cyrraedd at bawb ydyw dylanwad ei fywyd ef. Y mae ei ddylanwad yn adseinio i lawr o ddydd i ddydd. Yr oedd Cymru o dan gwmwl pan fu farw, eto, bu ei farw fel agoriad yn