Tudalen:Tom Ellis Gwladgarwr a Gwleidydd.pdf/74

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

datgloi'r ddor ar waith mawr ei fywyd. Dengys dylanwad ei fywyd ar y llwybr i ni tua chyfandir rhyddid. Torrwyd y cadwynau ganddo ef, ac y mae ei ysbryd yn llefaru yn glir.

"Ymlaen! Ymlaen! Chwi Gymry gwladgarol!" ydyw ei genadwri i ni heddyw. Er i'r genedl gael ei chlwyfo ddydd ei farw cafodd ei chlwyfo. i ddeffro. Er ei fod yn wrol a beiddgar yr oedd yn llednais a gostyngedig; er ei fod yn danbaid a gwladgarol yr oedd yn ddoeth a gofalus; yr oedd yn fawr yn ei fywyd, yr oedd yn fwy yn ei farw. Edmygid ef yn fawr gan ei gydoeswyr, ond edmygir ef yn fwy gan yr oesau a ddel. Yr oedd syniad ei gyfeillion yn uchel am dano, ond bydd syniad yr oesau a ddel yn uwch. Bydd ei gynlluniau a'i ddelfrydau wedi cael amser i ddatblygu i'w maintioli erbyn hynny, ac wedi dyfod yn rhan o fywyd y genedl. Gosododd ef y seiliau i lawr ond y mae'r muriau i gael