Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/10

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymaint o ddifaterwch yn cael ei roddi ar yr hyn a gyfansoddai gymaint o fawredd ein cenedl:—

Fy ngwlad! O! fy ngwlad, mae dy demlau cysegrol,
A'th sanctaidd allorau 'n malurio yn nghyd!
Dy gestyll, dy gaerau, dy gylchau derwyddol,
A beddau dy arwyr sy'n llwyd iawn eu pryd;
Symudir y gromlech, a meini dy heddwch,
Lle gynt bu 'r addoli, gan law difaterwch,
Ar fri dy hynafiaid rhoir pob diystyrwch,
Mae'th fawredd cyntefig ar fachlud o'r byd!

Pa le mae colofnau cofebawl d'wroniaid,
Gyflawnent wrhydri dros freiniau'r wlad gu?
Nid ydyw yr haulwen o'i orsedd ordanbaid
Yn dangos braidd adail ar fedd un o'r llu!
Dibrisir y garnedd lle gorwedd y Brython,
A brynai ei ryddid â thwymn waed ei galon;
Gadawyd i'r mwswg a'r danadl gwylltion,
I guddio'i orweddle mewn angof du, du!


Y mae genym hefyd draddodiadau am ddyddiau hynodawl, y rhai sy wedi eu trosglwyddo i ni drwy agenau, megys, o amserau erchyll; amserau pan y chwenychwyd cadgyrch y rhyfel-faes yn fwy nag arferion heddychawl yr aelwyd—amserau pan oedd y waywffon a'r bicell, ac offerynau o gyffelyb natur, yn cael mwy o sylw na meithriniad palmwydd blodeuawg heddwch—amserau pan oedd gweryriad y rhyfelfarch yn gymysgedig â llais croch-ruawl udgorn rhyfel, yn enyn nwydau mwy cydweddol â'u hymarweddiadau ac â'u chwaeth, na thyneraf gerddoriaeth eu telynorion, neu addysg synwyrlym eu Derwyddon athronyddawl. Y rhai hyn oeddynt yn wir gymdeithasfäu dyddiau marchwriaethol neu wrol-gampol, pan ydoedd holl uchelgais dyn yn gadael ei wylltaf nwydau yn benrydd, ac yn eu hymarferyd fel offerynau i`gyrhaeddyd meddiant o'i freuddwydion mwyaf mawreddawg a gorwych, yn absenoldeb teimladau mwy coethedig mewn cymdeithas i atal eu rhamant.