Yr hyn ag sydd yn peri llawer o flinder i feddwl y gwladgarwr ydyw, nad oes genym fawr o hanes yr hyn a fu yn cynwys cymaint o ogoniant cyntefig ein cenedl ar gael. Y mae miloedd o'r llawysgrifau Cymreig, drwy ddifaterwch yr oesau, wedi yslithro, ac yn yslithro i ebargofiant. Er yr holl gynhyrfiadau mawrion a phwysig sydd wedi cymeryd lle, y mae rhai o'r hen ysgrifau hyn wedi dyfod i'n dwylaw yn ddyogel; wedi gorfyw tymhestloedd ac ysgubiadau gwaedlyd rhyfeloedd, a chynyrfiadau gwladwriaethol arswydus, ac wedi nofiaw megys eirch ysplenydd mewn dyogelwch hyd dònau ymchwyddawl amser, gan ddwyn i ni hanes amserau a fuasent yn eu habsenoldeb yn dudalenau blanc yn ein llenyddiaeth hanesyddawl, yn nghylch yr hen genedl enwawg a galluawg a boblogodd yr ynys ysplenydd hon gyntaf. Mae yn wir fod eu negeseuau a'u cenadiaethau yn gwbl analluawg i'n cynysgaethu âg adroddion manwl am helyntion boreuaf ein cenedl; ond eto, gweithredant fel y tipynau glas sydd i'w gweled yn ymruthro oddi rhwng cymylau gordduon y ffurfafen—fel llain o dir a fyddai wedi ei ddadgysylltu oddiwrth gyfandir neu fel ffaglau unigawl a fyddant yn taflu llewyrch gwanllyd, ond eto yn ffyddlawn, ar foddau ac arferion, ac ar gyflwr moesol a chymdeithasol ein dewrion gyndadau. Mae rhagluniaeth wedi ein hanrhydeddu â rhyw gipolwg ar braidd bob cyfnod yn ein hanes, yr hyn sydd yn fynegai (index) i nodweddion yr oesau a'u cynyrchasant; fel mae gwênau hyd yn nod y seren hwyrawl, mewn noson ddu gymylawg, yn ddigon i ddangos i ni agwedd gyffredinawl yr wybren ar y pryd, efelly mae yr anghysbell a'r henafol ddarnau hyn, ag sydd mor feichiawg o'r amserau a fu, yn ein hanrhegu â byr gyflym-drem ar agweddion cyffredinawl y gwahanawl ganrifoedd.