Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/14

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr yn "Sarnau." Ar y ffordd i Landdewi Brefi, y mae un o'r sarnau hyn i'w gweled yn awr. Yn ol rhai ysgrifenwyr gelwid hi "Sarn Helen," mewn an- rhydedd i Helena, mam Cystenyn Fawr. Mae ereill yn barnu mai llygriad ydyw yr enw, ac mai "Sarn Lleng" neu "Lleon," ydoedd ei hiawn enw. Y mae amyw o grugiau (tumuli) yn y gymydogaeth, yn enwedig wrth "Bont rhyd Remus." Gellir casglu yn mhellach, na fu y Rhufeiniaid yn segur iawn yn ardal Caio. Mawr oedd eu hanturiaeth! Hwy a dyllasant y creigiau er cael gafael yn y mwn aur cuddiedig, gan ffurfio rhai o'r ogofau mwyaf eang ac anferth a wnaethant yn ystod eu harosiad yn "Ynys Prydain, ysef "Ogofau Cynwyl Gaio."

Yspeilient y defaid o ael y mynyddau,
Lladratent gynyrchion diwydrwydd pob Haw;
Yn feiddgar anturient i agor y creigiau,
Fel eryr y gwelent ysglyfaeth o draw!
'Roedd "Melin y milwyr" malu cynyrchion
A godwyd drwy lafur a lludded a chwys
Ein tadau diniwaid, gan wasgar trallodion
I fynwes y palas, y bwth, a phob llys.


Gan ein bod yn awr yn trin. Pentref Caio, efallai mai nid gweithred hollol anfuddiol fyddai rhoddi rhyw gipolwg ar ei Heglwys, &c., cyn yr ymadawn â hi.

Fel pob peth a fu, mae amser wedi bod a'i law drom, yn dileu braidd yr oll o'r adeiladau penigamp a mawreddog ag ydoedd yn cyfansoddi yr hen "Gaer Gaiaw."

Cynwysa y plwyf oddeutu 2000 o drigolion, o ba nifer y mae oddeutu 125 yn gwneyd i fyny boblogaeth y pentref. Cynwysa 3 o siopau, 3 o dafarndai, 1 ysgoldy, 1 capel (Methodistiaid,) ac un Eglwys henafawl, yr hon sydd yn ddiweddar wedi cael ei thrwsio. a'i hadgyweirio gyda chwaeth a medrusrwydd canmoladwy. Cafodd ei hailagoryd gan y dysgedig Connop Thirlwall, Esgob Ty-ddewi, ar y 14eg o Ebrill, 1858.