Sy'n arwain pob llymsaeth i galon y gelyn.
Gwel! gwel y cyffro-y gwylltio a'r dychryn,
Sy'n meddu eu mynwes,-fel llew yn ei goedwig
Yw'r Cymry yr awrhon i'r eryr Rhufeinig.
Gwel y Rhufeiniaid yn gorwedd yn haenau,
A'u gwaed yn amgylchu eu hoer-gyrph yn dorchau;
"Paulinus" falch lywydd, a'r milwyr cyffredin,
A gyd-ymgymysgant eu gwaed yn y dyffryn!
Y meirch a'r marchogion y rhai oe'nt mor hylwydd,
A gyd-ddisgynasant i freichiau dystawrwydd !
"Buddugoliaeth!" yr udgyrn a seiniant,-
Gyrasom wŷr Rhufain fel gwellt gan lifeiriant;
Hen Gaio a gawsom, a'n tref achubasom,
O grafange y gelyn ein gwlad enillasom!
Fe gododd y lloerwen yn brudd y nos hono,
Uwch ben maes Llanwrthwl 'roedd trymder y bedd;
Dangosai ei marwaidd belydron digffyro
Oer lwmgyrph Rhufeiniaid yn welwon eu gwedd.
Roedd gwaed yr estroniaid yn llif hyd y ddaear,
Yn haenau gorweddent yn feirwon, O! fraw,
Y lloer a ddysgleiriai'u helmetau trylachar,
A'u harfau dywynent fel fflamau o draw!
SANT CYNWYL
Yr oedd y Cynwyl hwn, enw pa un sydd wedi ei gysylltu â Phentref Caio yn herwydd fod yr Eglwys wedi ei chysegru iddo, yn fab i Dynawd Fyr, neu Dynawd Fawr, neu Dynawd Wr. Ei enw Lladin oedd Dinothus, ac yn ol Bede, Dinoot Abbas. Yr oedd y Dynawd hwn, yn ol y Proffeswr Rees, yn frawd i Deiniol Wyn, ac yn un o brif-lywyddion North Britain, yn amser Urien Rheged, ac yn fab i Pabo, o linell Coel Godebog. (Gwel y Welsh Saints, p. 206.) Mae yn debyg iddo enill peth bri fel arwr, oblegyd gelwir ef yn y Trioedd Cymreig yn "un o dair colofn y wladwriaeth mewn rhyfel." Nid oes dim o hanes Sant Cynwyl ar gael. Ni a gawn yn y "Welsh Saints," p. 212, fod Cynyr Farf-drwch, neu Cynyr Farf-wyn, neu Cynyr Ceinfarfog ap Gwron ap Cunedda, yr hwn oedd yn benadur, yn byw yn Nghynwyl Gaio, tua chanol y 5ed ganrif.