Yr ydoedd yn dad i chwech o seintiau, ysef Gwyn, Gwynno, Gwynnoro, Celynin, a Ceitho; ac yn ol y traddodiad cawsant eu geni i gyd ar yr un waith! Dywed y Proffeswr Rees, un o'r prif feirniaid hanesyddawl a fu yn ein gwlad erioed, fod ganddo hefyd fab o'r enw Cai (gwel ei "Welsh Saints," p. 213,) yr hwn, mae yn debyg, a roddodd ei enw i "Caio." Yr oedd yn yr amser a aeth heibio gapel a elwid "Pump saint," yr hwn, fel y barna Rees, oedd wedi ei gysegru iddynt, yn gystal a Llan-pump-saint. Dywedir fod eu "gwyl" yn cael ei chadw ar ddydd yr Holl-saint (Allsaints.) Nid oes dim hybsysiaeth pellach yn eu cylch, ond tybir mai Ceitho ydoedd sylfaenydd Llangeitho yn Ngheredigion, ac fod ei ŵyl yntau yn cael ei chynal ar y 5ed o Awst. Efallai y dysgwylir i ni roddi hen draddodiadau, sydd eto i'w cael yn nghymydogaeth Cynwyl Caio, ar lawr yn ein traethawd; gan eu bod mor aneglur a thywyll, y rhan fwyaf o honynt, tybiasom mai gwaith hollol ddifudd fuasai rhoddi cyfres ar lawr o honynt, am mai gwrachïaidd ac ofergoelus ydynt braidd i gyd. Er esiampl, dyma un o honynt: Y mae ffynon fechan ar lan yr afon Annell, yr hon a elwir "Ffynon Gynwyl." Dywed hen bobl y gymydogaeth fod traddodiad yn dyweyd i blentyn gael ei ddarganfod yn ymyl y ffynon hon, rai oesau yn ol, ac iddynt ei alw yn "Cynwyl," ac iddynt enwi y ffynon yn Ffynon Cynwyl" yn herwydd hyny, ac iddo dyfu i fyny yn ddyn o gryn enwogrwydd; a byddent weithiau yn ei alw "Cynwyl Caio," am mai yn mhlwyf Caio yr oedd yn byw; ac iddynt wedi ei farw, alw y plwyf yn blwyf Cynwyl Caio o barch iddo. Dyna y traddodiad yn llythyrenol. Ni fyddai ond gwaith afreidiol i ni fyned i chwalu y gabildi yna, er nad ydoedd y dygwyddiad yn ei ystyr symlaf yn beth hollol annichonadwy; ond mor rwydd y mae y beirn-
Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/20
Prawfddarllenwyd y dudalen hon