Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaid hanesyddawl yn medru gwasgaru niwl tew hen draddodiadau tywyll ac aneglur fel hwna ac i ddwyn y ffeithiau a gynwys ereill i'r golwg!

Lewys Glyn Cothi

Ni a ddeuwn i waered yn awr hyd y 15ed ganrif, at y glwys-fardd Lewys Glyn Cothi. Yr oedd yr anwyl fardd hwn yn byw yn Mhwll-tyn-byd, yn Nghwm cothi, yn yr amser uchod . Fe ddylai pobl Cwmcothi ymdrechu cael allan hyd sicrwydd y man y bu byw ynddo. Yr oedd yn sicr fod ganddo balas ysplenydd, am ei fod yn foneddwr cyfoethog iawn , yn ddyn o chwaeth goethedig, ac yn fardd godidog.[1] Byddai yn fri nid bychan iddynt pe gallent, drwy lafur ac ym chwil, gael allan i eglurder y ffaith hon . Gallant, fel ag y mae sefyllfa pethau yn bresenol, hòni hawl yn un o'r beirdd godidocaf a fu yn Nghymru. Fe fu holl Itali unwaith yn berwimewn ymrafael yn nghylch lle genedigol ei Dante, gan fod cymaint o leoedd yn hòni yr anrhydedd fawr hono . Efelly y bu trefi a dinasoedd yn nghylch Homer ac ereill, rhy faith i'w henwi. Ymffrostia Llangathen yn ei Dyer, y bardd anfarwawl ac awdwr y bryddest orchestawl "Bryn y Grongaer." Lleoedd bychain ereill yn mhob rhan o'n gwlad a ymffrostiant yn eu beirdd a'u llenorion, y rhai a fuont megys Lewys Glyn Cothi, &c., yn oleuadau ac yn heuliau dysglaer, yn llewyrchu eu goleuni yn nenau yr oesau a aethant heibio. Fe ddylai pentref Caio ymffrostio ynddo, am ei fod wedi cartrefu ynddi, ac wedi talu ymweliadau mynych â hi, a'r hyn ag sydd mor wir werthfawr ydyw, fod Lewys ei hun yn ei gywyddau a'i awdlau wedi cofnodi hyny, fel y cawn ddangos eto. Hyderwn y bydd y llinellau hyn yn foddion i gynyrchu awydd ac uchelgais ynddynt i gael allan yr holl ffeithiau perthynol iddo: bu yn byw yn rhywle yn y gymydogaeth am lawer o flynyddau. Nid oes

  1. Bu Lewys yn swyddog milwrol hefyd dan laril Jasper Penfro.