Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dim eisiau i ni grybwyll wrth y darllenydd mor wir werthfawr ydyw cywyddau Lewys Glyn Cothi. Y maent yn llawn o grybwyllion hanesyddawl o bwys, ac yn rhoddi cipolwg i ni ar y dull yr oedd pethau yn cael eu dwyn yn mlaen yn Nghaio, &c., yn yr amser hwnw. Y mae yn beth gwir foddhaus i gael ambell olwg gan ryw hen fardd godidog fel hyn ar y moddau yr oedd ein hynafiaid yn "byw ac yn bod," ac ar sefyllfa wareiddiol ein tadau yn yr oesau a'r canrifoedd a aethant heibio. Ni a gawn, fel y dangosir, hanes llawer iawn o gymeriadau o bwys, o balasau mawrion ac ysplenydd, ag oedd yn Nghaio a'i hamgylchoedd, rhwng y blynyddau o.c. 1430 a 1470, hanes pa rai a fuasent wedi eu claddu mewn bythol ebargofiant oni buasai i'r bardd eu cofnodi yn ei farddoniaeth. Nid mewn dull o ymffrost y dywedwn, ond yr ydym yn credu mai y ni ydym y cyntaf sydd wedi taflu ychydig o oleuni ar yr hen gywyddau hyn yn eu perthynas â Chethinog ac à "Chaio." O leiaf nid ydym ni wedi gweled dim ar y testyn, ond yn unig yr hyn sydd mewn nodiadau gan yr offeiriaid dysgedig, y beirdd gorchestol, a'r beirniaid manylgraff a diguro, sydd er eu bod "wedi marw, yn llefaru eto," ysef Gwallter Mechain ac Ioan Tegid, yn gwaith ein bardd, yr hwn a gyhoeddwyd drwy eu llafur a'u cydweithrediad hwy. Goddefer i ni ddwyn tystiolaeth hefyd, ein bod yn synu peth pa fodd y gallasant fod mor gywir yn eu nodiadau lleol, tra yr oeddynt yn ddyeithriaid i'r ardaloedd a goffeir ganddynt yn eu notes. Wel, ni a awn rhagom yn awr at y cywyddau, gan ddechreu gyd a'r cywydd i