Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/24

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mae'n dda Mon a weddiwyd,
Mae sy well ym, Tomas Llwyd;
Arafa' oll yw ar fil,
Nes ei ofyn yn sivil;
Ef yw un, pan ofyner,
A ofyn barn a fo'n bêr;
A gwna hawl, ac enwi hon,
Wedi'r hawl fo dyr holion;
Os barn, neu wys, a bair neb,
Parotaf y pair ateb;
Os aliwns a gwnsela
I fwrw ein tir o fraint da,
Ar Domas rhaid yw ymwan,
A'u bwrw hwynt-hwy obry'n y tân;
O dyd ei lawnfryd a'i law,
Domas Llwyd am ais Llydaw."

Dyna i gyd sydd o'r cywydd hwn ar gael.

ESPONIADUR:—Mae y bardd yn y cywydd dyfynedig yn moli Caio yn uchel, ac yn ymffrostio yn fawr yn y gwleddoedd a gafodd yno; siarada yn uchel iawn ar haelfrydigrwydd a chymwynasgarwch un Tomas Llwyd, yr hwn oedd yn byw yn Nghaio yn amser ein melus-fardd Lewys. Fe all Caio ymlawenychu mewn bardd arall, ysef y Tomas Llwyd hwn; dywed am dano, fel cyfansoddwr rhiangerddi tlysion, ei fod o dymher addfwyn a charedig, ac o yspryd rhyddfrydig a gwladgarol. Nid ydyw y beirniaid Mechain a Thegid yn dyweyd dim ynghylch y Tomas Llwyd yma. Yr ydym ni yn barnu mai un o hynafion Llwydiaid Ffos-y-Bleiddiau ydoedd, olafiaid pa rai sydd yn byw yn y Brunant (Bre-nant?) yn ymyl Caio yn awr. Dyma waith eto i ryw rai yn Nghaiaw, ydyw gwneuthur ymchwiliad manwl yn nghylch y Tomas Llwyd hwn, a threio dyfod o hyd i rai o'i ganiadau—maent yn sicr o fod ar gael yn rhywle yn awr. Byddai yn anrhydedd i Gaio, ac yn enw i'r hwn a ddaw o hyd iddynt. Maent yn werth ymchwil ac ymholiad manwl. Gallem feddwl eu