Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cylchyn Rhyd Odyn fu'n 'stor,
Caio unsud Parc Win'sor.
Deuddeg arwydd yw blwyddyn,
A dau a deg ydyw dyn.
A'r haul a aeth mewn rhuwl well
I Ddafydd yn ddwy efell,
A'i ddau fraich hyd ar ddofr wen,
A'i ddyrnau a ddyr onen;
A'i wyneb wrth yr. Annell,
A'i law a wna lu yn well.
Thomas a'i fardd-was fo,
Yn fyw oeddwn, nef iddo;
Ni wn ŵyl o'r dengwyl da,
Heb dâl ardal Llanwrda; (8)
Ni byddaf wyl heb Ddafydd,
Nac enyd awr, nac un dydd;
Ni wypwyf, drwy nerth Cwyfen, (9)
Eisiau mab Thomas. Amen.

ESPONIADUR:—

(1) "Iago," neu James, yr hwn enw sydd yn parhau yn enw teulu enwog Rhyd Odyn hyd y dydd hwn.

(2) "Hwsmonaeth." Amaethyddiaeth dda.

(3) "Morgan o'r muriau, &c.," h.y., Morgan a sychodd dir gwlyb â'r defnyddiau a gafodd yn y muriau. Efallai fod hyn yn cyduno â'r hen ysgrif, drwy brofi fod Caio wedi bod yn cael ei hamddiffyn gan gaerau, neu furiau, a'i bod efelly yn cyfateb i'r enw "Caer Gaio."

(4) "Emyr Llydaw." Tywysog yr hwn a ddaeth o Armorica, gyda'i ewythr Garmon, a Chadfan. Yr oedd yn byw yn y 5ed ganrif.

(5) "Mab Llyr." Bran ap Llyr, tad Caradog. Gelwir ef Bran Fendigaid, a chan y beirdd, "Bendigeid Fran," &c.

(6) "Gronwy Goch" ydoedd y 5ed olynydd i Elystan Glodrydd, ac yr oedd Dafydd ap Tomas Fychan y 5ed o Garonwy Goch.

(7) "Hyd Lais," ysef yr afon Llais, yr hon sydd yn ymarllwys i'r afon odidog Towy, yn gyfagos i Groes