Inn, Llangathen. Ni a gawn fod yr holl wlad a or- wedd rhwng Caio ac Aberglais, yn ymyl Llangathen, yn eu meddiant. Yr oedd Henri ap Gwilym ap Tomas Fychan yn byw yn Ngethinog, yn Nglan Tywi. Yr oedd Llywelyn ap Henri ap Gwilym yn byw yn y Bryn Hafod. Yr oedd Llywelyn yn byw yn Ngethinog, yn ymyl Llangathen, ysef yn y Bryn hafod; ac fe fu Harri yn byw yn Lan Lais, cyn myned. i fyw i'r Cwrt Henri, palas y presenol Parch. H. Wade Green. Yr oedd Gwilym ap Tomas Fychan yn byw yn Nghefn Maelgoed, Llangathen. Mae gan ein bardd gywyddau, ac awdlau "moliant," i'r enwogion hyn i gyd; yr hyn a brawf fod y Fychaniaid, neu y Vaughans, yn deulu lluosog, cyfoethog, ac o ddylanwad mawr yn y rhanau hyn o'r Deheubarth; a dengys fod y bardd yn gyfeillgar a hwynt, a'i fod mewn bri mawr ganddynt.
(8) "Heb dål, &c." Llan Wrda, plwyf yn hwndrwd Caio. Mae yr Eglwys yn gyflwynedig i Sant Cawrdaf, ap Caradog Fraich Fras (a brawd i Cathen, i'r hwn y mae Eglwys Llangathen, wedi ei chysegru.) Yr oedd yn byw yn y 6ed ganrif.
(9) "Cwyfen" ap Brwynen Hen ap Cothi. Sant oedd yn byw tua diwedd y 7ed ganrif. Pwy ydoedd Cothi, wys? Yr oedd "Coth" yn un o feibion Caw, yr hwn oedd arwr dan y brenin Arthur. Fe allai mai yr un oeddynt.
Mae yn rhaid addef mai gwaith sych iawn ydyw treiddiaw i mewn i hen bethau fel hyn; ond O! pa mor werthfawr ydynt. Edrychwch gymaint o gymeriadau ysplenydd ydoedd yn enwogi Caio yn yr amser gynt! Ac efallai y bydd eu hadgyfodi fel yma, drwy ddangos y mawredd a'r bri a berthynai i'r pentref bychan hwn, yn foddion i gynhyrfu ei drigolion i ymestyn yn mlaen at ddyrchafu yr hen le eto i'w enwogrwydd cyntefig;