Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/32

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac yr ydym yn credu mai un cam da tuag at sicrhau hyay ydyw gweithgarwch a nawdd y boneddwr gwladgar John Johnes, Yswain, Dolau Cothi, perchenog yr Ogofau. Pe buasai y werin yn gyffredin yn gallu dyfod o hyd i waith y bardd gorohestawl Lewis Glyn Cothi, ni fuasem yn blino cymaint ar y darllenydd, nac yn myned i'r drafferth chwaith o'u had—ysgrifenu, nac i roddi cymaint o ddyfyniadau o honynt. Ond, yn herwydd fod copi o'r gwaith mor ddrud, ac yn wir mor brin, fel na cheir ef ond yn llyfrgelloedd ein prif lenorion, a chyfoethogion y tir, wrth roddi yr oll fel yma o'r farddoniaeth sydd yn perthyn yn neillduol i Gaio a'i hardaloedd, fe ellid gwneyd pamphled rhadlawn o honynt, felly fe fyddai o fewn cyrhaedd y werin. Pe gwnelid hyn â'r holl farddoniaeth hanesiol sy genym yn dwyn cysylltiad â gwahanol ardaloedd, fe fyddai yn symudiad canmoladwy, yn herwydd y rhesymau a roddasom yn barod. Llyma gywydd eto sydd yn llawn cyfeiriadau hanesyddawl, &c., wedi ei gyfeirio gan ein bardd i DAFYDD FYCHAN O GAIO

"DAFYDD FYCHAN O GAIO."

Dengys fod pedair cangen bwysig wedi deilliaw allan o lwynau Dafydd Fychan, am rinweddau pa rai y siarada yn uchel, ysef Rhys, Tomas, Llywelyn, a Dafydd. Ac mae yn ymddangos oddiwrth rai llinellau yn y cywydd, ei fod wedi rhanu ei ystad rhyngddynt, megys:—

"Dafydd Fychan a'i rhanodd,
A phob un fu'n rhanu rhodd, &c."

Pan yr oedd tad a mab yn hapio bod yr un enw, gelwid y mab yn "Fychan," neu yn awr yn Saesoneg, "Junior." Mae hyn yn arferiad cyffredin yn awr; megys pan fyddo tad o'r enw "John Jones," a'r mab yn John hefyd, adnabyddir yr olaf fel "John