Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/37

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y cyfoeth ef a'i cafas,
Ac ar ei ol dawn a gras.
Tir yr hynaif trwy raniad,
A rhan o dir yr hen dad;
Tai'r gorhendad, a'r tad da,
Tai'r Ewythyr fal Troia; (13)
Tai'r Sieb, lle trois y iaith, (14)
Philip a'u caffo eilwaith;
Philip a gaiff ei weled,
Yn nhai Sais, aen' hwy i sied. (15)
Cymered dai Cymaron,
Y gan fab gwinau o Fon;
Ni'm gad Philip gredadwy,
O dŷ'r medd i un dre' mwy.
Nid abl ym onid ei blas,
Nid da ym ond mab Tomas;
Ni ddof oddiwrth nai Ddafydd,
Yni ddêl y nos yn ddydd; (16)
Yni ddêl naw o Ddulyn,
Yni ddel o Wynedd un,
Yni ddêl dros ddwr Mynyw,
Y du bach a'r bwbach byw.

ESPONIADUR:—

(1) Pa le yr oedd "Yr anedd wrth yr Annell" wys? Efallai fod olion yr hen balasau y cyfeiria y bardd atynt, eto i'w canfod yn Nyffryn yr Annell. Mae'n bur debyg fod y presenawl Glan-yr-Annell wedi ei adeiladu ar safle un o'r hen balasau hyn.

(2) "Ei nai eilwaith," ysef fod Philip yn dylyn haelfrydigrwydd ei ewythr Dafydd.

(3) "Huail ap Caw," yr hwn a enwogedd ei hun gymaint yn rhyfeloedd Arthur. Rhestrir ef gyda Chai ap Cynyr Cein-farfog, o Gaio, a Trystan ap Tallwch, dan yr enw "y tri Arweinydd Coronawg mewn rhyfel." Gwel y Cambrian Biography, p. 180.

(4) "Teml Wynen lân." Myn teml, &c. "Urien." Urien Rheged, un o hynafiaid anghysbell teulu Dinefwr.

(5) "Esgob Eli." Philip Morgan, D.C.L., yr hwn ydgedd yn hanu o'r hen deulu yma. Yr oedd yn