Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/42

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"YR OGOFAU."

FOD hen weithiau aur yn Nghymru sydd ffaith sydd yn awr yn cael ei haddef gan bawb. Y mae enwau megys Gelli-aur, Melin-yr-aur, Troed-yr-aur, a rhai cyffelyb, yn sicr o fod yn dwyn cysylltiad â hwynt. Mae llawer iawn o grybwyllion gan y cyn-feirdd yn nghylch llawer o bethau a wnaethent o'r aur, &c. Mae yn amlwg ei fod yn ymarferiad cyffredin i wisgo aur-dorchau gan ein tywysogion, a chadywyddion ein byddinoedd, yn amser Aneurin (bardd a flodeuodd yn y 6ed ganrif.) Pan yr oeddynt yn myned i ryfel, gwisgent hwynt am eu gyddfau, fel arwydd o anrhydedd, dylanwad ac awdurdod. Dywed Aneurin:—

"Try wyr a thriugait a thrichant eur-dorchawg."

Mae rhai o'r torchau hyn i'w gweled yn Dolau Cothi yn awr.[1] Sonia Llywarch Hen hefyd am ei gadagryf ddewrion-feib fel yma:—

"Pedwar mabarugaint a'm bu,
Eur-dorchawg tywysawg llu," &c.

Cawn hanes fod y Cymry hefyd (heb i ni ymhelaethu dyfynu o weithiau y beirdd, megys Owain Cyfeiliawg, &c., ar hyn o bryd yn mhellach,) yn addurno y medd-gyrn, y rhyfel-gyrn, yspardynan, tarianau, a'u gwisgoedd, a thrwsiadwaith o aur. Gellir casglu oddiwrth hynyna fod y Cymry yn gyfoethawg iawn yn y mŵn gwerthfawr hwn. Fe drethodd y Rhufeiniaid ein cenedl yn drwm iawn yn amser y brenin Cynfelyn (Cunobelinus,) a chawn mai mewn bathodau aur (gold coins) yr oeddynt yn ei thalu. Y mae rhai o'r bathodau hyn ar gael yn awr, y rhai sydd yn dwyn enw "Cynfelyn" un ochr, a'r gair Tascio, ysef taxing

  1. Gwel Attodiad.