Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/44

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydoedd gwerthfawrogrwydd y mwn aur a lechai yn yr Ogofau. Mae y meddwl hwn yn taflu goleuni ar y gofyniad naturiol-"I ba ddyben yr oedd y Rhufeiniaid yn amddiffyn Caio a chaerau mor gedyrn?" Gwelir yn eglur yn awr mai er dal meddiant hollol o'r Ogofau. Rhaid fod y mwn yn un gwerthfawr,[1] cyn iddynt gloddio y fath ogofeydd eang, a gwneyd y fath dramwyfeydd tanddaearol rhyfedd, y rhai sydd yn syndod i holl wyddonwyr y deyrnas i'w gweled. Os cywir y cofiwn, y mae nifer yr Ogofau yn wyth. Y mae rhai wedi tramwyo i mewn iddynt mor bell a haner milldir; ond bernir nad oes neb wedi cyrhaeddyd eu man eithaf. Nid oes dadl na fuasai y Rhufeiniaid wedi tan-gloddio y mynydd i gyd! Dyna feiddgarwch! tyllu i mewn i galon y creigiau, heb gymhorth na "gun cotton" na phylor! Y mae hofferynau i'w canfod yn awr yn nghreigiau anferth yr Ogofau! Wedi teithio i mewn iddynt, yr ydym yn dyfod o hyd i ystafelloedd eang-fawr, i golofnau ysplenydd wedi eu cerfio o'r creigiau, ac uwchben y mae eu nen yn ymddysgleirio fel y grisial tryloywaf, nes y mae goleuni gwanllyd y ganwyll yn eu dangos mewn gwahanol liwiau, megys rhai prydferth yr enfys, yr hyn sydd yn creu braw drwy'r fynwes, gan eu harddunedd mawreddog, a'u gwychder ysplenydd. Mae nant fechan i'w chlywed obry! obry! megys yn nyfnderoedd y ddaear, yn berwi fel crochan, nes y mae ei hadsain yn dragywyddol furmur, yn adseinio yn yr Ogofau, o graig i graig—o glogwyn i glogwyn—nes creu dychryn nid ychydig ynom. Dywed Mr. Smyth, M.A., yn ei "Memoirs of the Geological Survey of Great Britain, and of the Museum of Economic Geology," 1. page 480, (Gwel hefyd "Archæologia Cambrensis," vol 1. iii series, page 800,)—"The

  1. Y mae Syr Joseph Banks yn barnu mai cloddfeydd aur oeddynt.