ryw fwnau gwerthfawr ereill, gan Rollin yn ei “An— cient History."
Y mae yn ymddangos fel peth diamheuol, mai gweithrediadau o gyffelyb natur i'r rhai a enwyd oedd yn cael eu dwyn yn mlaen ganddynt yn Ogofau Cynwyl Gaio. Ac y mae yn fwy na thebyg fod yr afon fechan sydd i'w chlywed yn murmuro yn awr yn yr Ogofau hyn, wedi bod yn gwasanaethu arnynt, megys y sylwasom uchod ar y defnydd a wnaent o afonydd, pan y byddent yn gyfleus. Y mae i'w weled yn awr, yn agos i'r man lle tardda y Cothi, olion rhyw fath o dwmpath mawr, neu "mole,"—yr hwn, y mae yn debyg, oedd yn andwyo yr afon o'i chŵrs naturiol, neu arferol. Y mae ffordd yr hen ddwfrlwybr (aqueduct) i'w ganfod yn eglur yno yn awr, ac y mae olion yn ymddangos hefyd, y rhai a roddant ryw gipdrem i ni feddwl am y nerth gyda pha un yr ymarllwysai y llif i waered. Yr oedd dwfr, wedi ei gyfyngu felly, yn grych anwrthwynebadwy, ac yn ddigon nerthol i ddysgubo y cwbl ymaith o'i flaen. Y mae y pwll mawr, yr hwn a ffurfiwyd gan ei ddyfrgwymp, ac a elwir "Pwll Uffern Gothi," yn dangos yn eglur i ni gyda pha nerth y disgynai y dyfroedd dros y graig. Barna yr un awdwr dysgedig eto, fod y camlas (canal,) olion pa un ydynt i'w canfod ar y bryn sydd gyferbyn a'r Brunant, yn sicr o fod filltir uwchlaw i wely yr afon o ba un ei codwyd! Oddiyma yr oedd yn cael ei arwain yn gornant i'r man uchelaf, yn union uwch ben cloddfeydd mwnawl yr Ogofau! Atelid ei gŵrs wed'yn, a chrynhoid ef i ddyfr—gronfa (reservoir) anferth, er iddo gasglu ei nerth, cyn ei ollwng i ymarllwys ar draws y cloddiau islaw! Pan nad oedd angen y dwfr hwn arnynt, yr oedd yslyw (sluice,) megys ag y barna Williams, ar yr ochr arall i'r ddyfr—gronfa, lle y gollyngid ef i ddiangc, gan