ei arwain drwy ffôs (dyke,) olion pa un sydd i'w gweled eto yn ymyl Caio, lle yr ymarllwysai i nant fechan, yr hon, yn mhell islaw, sydd yn cymysgu ei dyfreedd â rhai y Cothi.
Ar lanau y camlasau hyn, yr oeddynt yn adeiladu melinau a pheiriannau defnyddiol ereill, y rhai a gedwid i weithio drwy nerth y dwfr a dynwyd yn wreiddiol o'r afon! Dyna oedd "Melin y Milwyr," am yr hon yr ydym wedi son yn barod. Ystyr yr enw Milwyr ydyw mil o wŷr (1000 men.) Tybir fod pob rheng, megys ag y maent yn awr, yn cynwys mil o wŷr. Yr ydym yn cael fod hen olion melinau, o gyffelyb waith, i'w cael yn mhob man lle y bu y Rhufeiniaid yn gorsafu. Y mae hefyd ryw bethau cyffelyb i'w gweled yn yr Amerig Ddeheuol. (Gwel "Williams's English Works," p. 165.) Dywed yr un awdwr, tudal. 154, fod llawer o drigolion plwyf Caio yn tybied eu hunain yn olafiaid i'r Rhufeiniaid; dywed hefyd eu bod yn ymfalchio yn hyny, ac fod enwau Rhufeinig yn beth cyffredin yn eu mysg. "Y mae person yn awr (ebe fe) yn fyw, yr hwn sydd yn dwyn yr enw Paulinus, ond y mae y presenol Baulinus, yn lle bod yn llywyddu byddinoedd, ac yn trais-ruthro ar deyrnasoedd, yn gweithio fel dydd-weithiwr, ac yn byw yn ddigon ymfoddlongar yn ei fwthyn!"
Y mae maen mawr yn ymyl y fynedfa i'r Ogofau, yn tynu ein sylw, gwyneb pa un a ddengys ei fod wedi ei gafnu mewn pedwar neu bump o fanau. Barna Mr. Smyth (Gwel "Archæologia Cambrensis," p. 300) mai ar y maen hwn yr oeddynt yn tori y mŵn, fel y gallent yn rhwydd ei ddosparthu oddiwrth y rwbal a'r sorod. Ond cofnoda Williams eto, yn ei weithiau ysplenydd, tud. 155, yr hen chwedl a ganlyn yn nghylch y maen hwn:—