"Yr oedd pamp o saint ieuaingc ar eu pererindod tua chreirfa (shrine) Ty Ddewi, ac yn herwydd en bod yn flinedig ac yn newynog ar eu taith, hwy a orweddasant, ac a orphwysasant en penau ar yr hen glustog fawreddog hon. Fe gauodd cwsg eu llygaid yn fuan, fel na allent ddala allan yn mhellach, drwy rym eu gweddiau, gynllwynion eu gelynion. Fe döwyd y nen yn fuan â chymylau gordduon, fel y collwyd pob gwrthddrych yn nghysgodion y nos dywyllaf. Yr oedd y taranau yn rhuo, y mellt yn llechedenu, a'r gwlaw yn disgyn i waered yn llifeiriant chwyrnwyllt. Fe gynyddodd yr ystorom nes yr ymsythodd holl anian gan yr oerfel, ac fe deimlodd hyd yn nod duwioldeb a thosturi ei effaith rewol. Fe drodd y gwlaw yn gesair anferthol, y rhai a yrwyd gan y gwynt yn chwyrnwyllt a chyda nerth mawr yn erbyn penau y pump pererin blinedig, nes sicrhau eu penau wrth y glustog, olion pa rai ydynt y pum' twll sydd yn awr i'w gweled yn y maen. Wedi cael eu cludo mewn llawenydd gan y swynwr oedd yn meddiannu yr Ogofau yn y bryniau hyn, hwy a guddiwyd yn un o'u celloedd mwyaf dyogel, yn mha le y cadwynir hwynt gan annhoredig gadwynau swyngyfaredd, hyd nes bydd yr esgobaeth wedi ei bendithio âg Esgob duwiol."
Y mae traddodiad hefyd fod Owen Law Goch yn gorwedd dan effaith swyngyfaredd yn Ogof Merddin, a phan ei dihunir y daw y Cymry eto yn berchenogion ar yr ymerodraeth a gollasant, ac y cânt berffaith oruchafiaeth ar bob cenedl a fyddo yn fwy anwybodus, ac yn fwy anfoesawl na hwynt-hwy.
Yr ydym yn gwybod am amryw o Ogofau y dywedir fod "Owain Law Goch" yn huno ynddynt, megys Ogof Pant-y-Llyn, yn ymyl Llandybie, yn mha le, er's amryw o flynyddoedd yn ol, y deu-