Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er fod llawer a ânt yno, hyd yn nod yn fwy llwyddiannus yn y grefft, eto, yr oeddym yn teimlo ein bod wedi cael ein gwala o ddifyrwch. Gan na adewir i garwyr y "wialen" a'r "coch-a-bonddu" bysgota yn Nghothi ar ol y dydd diweddaf o Awst bob blwyddyn, gofaled yr ymdeithwyr fyned yno cyn hyny. Y mae y Cwmpeini hyn wedi lledaenu eu golygiadau a'u gweithrediadau yn ddiweddar, ac y maent yn gwarchawd a dyogelu yr afon odidog Tywi eto.

Y pysg a welsom ni yno oeddynt y rhai canlynol— yr eog, y sewin, y brithyll, y lyswen, &c. Y mae y Cothi yn rhedeg drwy anialwch diffaeth ac annhramwyadwy braidd, i lawr i waered hyd Gwm Cothi, drwy greigiau erchyll, nes y ffurfia yn fynych yn dro-byllau arswydus yr olwg arnynt, ac ymarllwysa i'r afon brydferth Tywi, yn ymyl Pont-ar-Gothi, oddeutu chwe' milldir i dref Caerfyrddin. Y mae llawer o felinau ar ei glanau, paham hefyd na allai fod llawer iawn o weithfeydd ereill ar ei glanau, megys gweithfeydd gwlan, brethynau, &c.? Mae yn sicr o fod cyfleusterau nodedig er dwyn gwahanol orchwylion y gweithiau hyny yn mlaen, pe byddai anturiaethwyr a dynion o gyfalaf (capital) yn gwybod am y gwahanol gymhwysderau a'r cyfleusterau sydd yn angenrheidiol er gwneuthur symudiadau o'r fath yn llwyddiannus. Ni a ddirwynwn ein traethawd i fyny gyda dyweyd y chwedl ganlynol:—Yr oedd hen wag o'r enw William Shôn yn byw yn yr ardal, yn y ganrif ddiweddaf, ac yn gwneyd bywioliaeth bur ddidaro drwy broffesu rhywbeth a ymylai ar gwnsuriaeth. Yr oedd yn proffesu gwella pob math o glefydau, ac i ddarllen tynghedfen dyn neu geffyl! Ni fyddai Shôn yn darllen dwfr, nac yn cynyg gweinyddu ei rinweddau, a'i gyffuriau meddygol, &c., ond cyn cyfodiad, ac wedi machludiad yr haul! Fee yr hen