Tudalen:Traethawd ar Gaio a i hynafiaethau.djvu/55

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

walch oedd fel y canlyn:—Hyn a hyn o fara ceirch dros geffyl, caws dros eidion, ac ychydig gash, fel y byddai y llogell yn caniatau, am ddarllen dwfr, neu ddarllen y dyfodiant! Yr oedd maen mawr ar lan yr afon, yn mha le yr oedd yn rhaid i'r aberthydd offrymu ei aberth, drwy osod ei offrwm dan y maen hwn; tybid mai aberth i'r duwiau ydoedd! Wedi i'r bobl ofergoelus ac anwybodus hyn fyned ymaith, ceid gweled yr hen wron yn carlamu tua'r maen, i gyrchu yr offrymau! Wrth syn-fyfyrio ar un o hen greigiau erchyll yr afon hynod hon, yn swn un o'i thro-byllau dyfn-ruol, a gweled ei physg godidog yn ymgampio mor nwyfus ynddynt, y mae ein meddwl yn cael ei lanw syndod, wrth feddwl mor wahanol ydyw pethau yn awr, ar, ac yn nghymydogaeth ei glanau, i'r hyn oeddynt yn amserau blinion ac ofergoelus ein tadau! Yr ydym yn canfod ar ei glanau anial-leoedd sydd wedi cael eu trochi a'u cysegru â gwaed ein hynafiaid! Y mae yma leoedd hefyd wedi eu cysegru gan awenydd orwisgi Lewis Glyn Cothi, gan Hymnau Dafydd Jones, gan "Athroniaeth" Lewis,[1] a chan ehediadau awenyddawl y diweddar ddysgedig Eliezer Williams. Yr ydym yn gweled lleoedd hefyd wedi eu poblogi gan y Cymry—plant y bryniau moelwylltion er's miloedd lawer o flynyddau. Ie, y mae cenedlaethau wedi wylo—wedi canu llawer gyda'r hen delyn Gymreig—wedi ymladd brwydrau anfarwol—wedi adeiladu caerau a chastelli, gwyddfâu a themlau, ac wedi myned gyda'r llif i fythol ddystawrwydd! Byd rhyfedd ydyw y byd hwn! Hyderwn ein bod fel hyn, yn frysiog, wedi bod yn llwyddiannus i brofi fod yr "Ogofau ac Afon Cothi," pentref Caio a'i hardaloedd, yn llawn o destynau gwir ddyddorol, a'u bod un ac oll yn cynwys maesydd

  1. Gwel Attodiad.