Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/20

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Williams, fu yn un wrth y gorchwyl o gloddio sylfaeni ffwrnesau Penydaren. Mae y Williams presenol yn hanesydd cofus, yn Gymro gloew, yn gymydog cariadus, ac yn bleidiwr gwresog i lenyddiaeth Gymreig. Efe oedd cychwynnydd ac achosydd y traethawd hwn ar blwyf Merthyr Tydfil. Cododd Sais o'r enw Gypson awyren[1] yn Merthyr, yn Hydref y flwyddyn 1847, a disgynodd ger y ty hwn. Gwernllwyn isaf Y cyntaf ag sydd genym hanes am dano yn y lle hwn oedd Dafydd Jones, adnabyddus wrth yr enw Dafydd Shon; efe oedd yr un a gymerodd Brydles Dowlais oddiwrth achau Cefn Mably, tua chan mlynedd yn ol. Yr oedd iddo bump o ferched; priododd un o honynt ag un Walter Dafydd Evan, Blaenrhymni; eu disgynyddion hwy ydynt Dafisiaid y Cwm, ger Caerffili, ac Overton, Ysw., y cyfreithiwr a'r trengholydd yn Merthyr. Priododd un arall, ac aeth i'r Ysgwydd gwyn, yn Gelligaer; oddiyno yn rhanol y tarddodd achau presenol y Bedlinog. Priododd un arall ac aeth i fyw i Benbanc, yn Gelligaer; oddiyno yn rhanol y deilliodd achau Penygareg a'r Fforest. Priododd un ag un o Ddafisiaid y Mairdy, yn Merthyr, a bu'r llall farw yn weddw.

Gwernllwyn uchaf. Hen arosfan y parchus Williamsaid; perchenogion amrai diroedd yn Gelligaer. Gellifaelog. Preswylfa henafol Isaac Williams, yr hwn fu yn meddu amrai diroedd yn mhlwyf Merthyr, nid amgen y Gellifaelog, Rhyd y bedd, Gwernllwyn isaf, Cilfach yr encil, a Chefn у Fforest. Yr oedd yn daid i'r Doctor Pritchard oedd yn byw yn Nghefn y Fforest tua chan mlynedd yn ol.

Cefn y Fforest. Hen drigfan y Pritchards, gynt o'r Colena, yn Llantrisant, ac ymae yn meddiant yr achau erys rhagor nag wyth ugain mlynedd. Cyn eu dyfodiad hwy i'r lle yr oedd y foneddiges enwog Lydia Phel yn byw yno, ac yn aelod selog gyda'r Crynwyr; bu yn cyrchu i wrando i Cwmglo hyd yr ymraniad yn y flwyddyn 1650, pryd y rhoddodd 'le yn etifeddiaeth barhaol i'r Crynwyr i amgaeru mynwent, yr hon oedd hefyd i fod yn lle o addoliad, ger y pentref sydd yn awr

  1. Cyn dyfeisio'r awyren adenydd ar ddechrau'r 20G, defnyddid y term awyren i gyfeirio at falŵn awyr poeth