Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/21

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar yr enw, tu arall i'r afon Bargoed, yn Llanfabon. Bu y Crynwyr yn cynal cyfarfodydd yma dros lawer o flynyddoedd; cynullai torfeydd lluosog yma deirgwaith yn y flwyddyn; y mwyaf nodedig o'r cynulliadau hyn oedd yn amser Gwyl Ieuan. Gwywodd yr achos yma o herwydd, medd rhai, anwareiddiwch a gwatwariaeth iselwael ryw fath o ddynion a fynychent i'r lle. Mae ei muriau yn bresenol yn amgaddiedig gan y gwyrddlas iorwg, fel y dynodant ddirywiad ac anghyfanedd-dra yn ei pherffeithiwch. Yma y gorphwys gweddillion marwol Lydia Phel, yn nghyd ag amrai ereill o Grynwyr dan feini llorweddol,a orchuddir dan gaenen werdd las o dyweirch. Nid oes na chyfarfod na chladdu wedi bod yma yn y deugain mlynedd diweddaf.

Penygraig. Tua dau cant a haner o flynyddau yn ol yr oed ddadleuydd (counsellor) o'r enw Morgans yn byw yn y lle hwn; ynddo mae ystafell a elwir hyd heddyw Study fach, lle yr arferai fyfyrio a threfn ei gynlluniau. Ar ei ol ef daeth y Williamsaid, y rhai fuont yn aros yma yn olynol hyd yn ddiweddar. Nid oedd rhent y tir hwn pan yn meddiant y diweddaf ond un o'r teulu a enwasom ag a fu yn byw yma ond £29 yn y flwyddyn, wedi ei farwolaeth ef, Morgan Williams, am fod y Brydles yn myned allan gyda'i fywyd, cododd rent flynyddol y tir hwn i £104 y flwyddyn. Bu y Morgan Williams hwn gyda'i fulod a'i geffylau yn cario haiarn oddiwrth Waith Hirwaun dros gefn y mynydd, rhwng Merthyr ac Aberdar, a thros y llwybr a ymddangosa yn awr mor ddisathr, drwy Daren y gigfran, ac i lawr dros Bontygwaith i dynu tua'r Casnewydd, neu Lanhuddal; arferai ddadlwytho ger Ffaldgaiach, lle troai ef yn ei ol ac y cymerai arall у baich yn ei le i'w gludo i ben y daith apwyntiedig. Gwerthodd y dyn hwn bedwar o ychain yn un o ffeiriau y Waun am £100, yn nechreuad rhyfel dymor Napoleon I.

Tir y Cook. Preswylfan y clodus feddyg anifeilaidd, Richard Davies, yr hwn sydd yn wr tra chyfrifol yn ei ardal. Bu un Sais o'r enw Cook yn byw yn y lle hwn er ys tua dau cant o flynyddoedd yn ol; yr oedd yn un o gwmni Gwaith Hairn Pontygwaith. Priododd un o