Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/22

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ferched Mordecai Ebrai Phel, yr hwn oedd yn frawd i Lydia Phel, Cefnyfforest, ac yn byw yn Nhir y Cook cyn dyfodiad y sais i'r lle. Mae traddodiad yn y gymydogaeth fod maelfa wedi bod yn yr amaethdy hwn gwedi amser Cook, ac fod ei pherchenogydd yn myned tua Chaerodor i brynu ei nwyddau, ac yn eu cludo yn ol ar ei gefn.

Tai'r Lan. Preswylfan henafol Lewisiaid y Tŷ Newydd a Thai'r Lan. Y cyntaf ag sydd genym hanes am dano o achau y Lewisiaid yn y lle hwn oedd Daniel Lewis, alias Daniel Goch, yr hwn oedd yn gyfreithiwr hyfedra galluog, a thra chyfrifol yn ei ardal; bernir ei fod yn byw yma tua dechreu y ddwyfed ganrif a'r bymtheg.

Ty Newydd. Preswylfan yr un Lewisiaid a Thai'r Lan, fel y nodasom yn barod, y rhai sydd linol-lin yn ddynion caredig, cymwynasgar, ac heddychlawn yn eu hardal. Troa perchenogydd presenol y Ty Newydd mewn cylch pwysig yn Merthyr Tydfil. Iddo ef yr ymddiriedir y gorchwyl o gasglu treth y tlodion yn y plwyf. Prynodd ei hen daid diroedd Ty Newydd, Tir y Cwm, a Ty'r Ywen, gan un o Lewisiaid y Van, yn y flwyddyn 1727, y rhai hefyd oeddynt berchenogion boreuol Tai'r Lan, Godrecoed, Cefn Glas, Abervan, yn nghyd a rhan o dir y Perthigleision, &c.

Ynys Owen. Hen drigfan y Meyricks, achau henafol ond rhanol Williamsaid, Maes-y-rhyddid, T. Edmunds, Penybylchau, &c., taid yr hwn oedd Edmund Meyrick; oddiwrth yr Edmund hwnw y tardd ei gyfenw Edmunds; yr oeddynt yn ddiarebol am fod yn alluog a dewr; y diweddaf o honynt ag a fu yn byw yn y lle tua 70 o flynyddoedd yn ol, a arferai, fel eraill o'i gymydogion, galchu o'r Twynau-gwynion. Fel yr oedd ef yn nghyd ag un o'i gymydogion yn ystod un tymor yn cyrchu calch o'r lle a nodasom, arferent gyfarfod ag ebolyn bychan o faintioli ar eu ffordd; yr oedd wedi denu eu sylw er's diwrnodau fel un o'r creaduriaid truanaf a allasent ganfod o Fon i Fynwy, ac o'r braidd nad oedd yn rhy druan i ddau edrych arno ar unwaith. Wrth ei gan fod felly, a hwythau yn gwybod am y borfa fras oedd