Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/30

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'w werthu, i fyned i Aberhonddu, a manau ereill, a mwn i fyned at wasanaeth ffwrnes Caerffili, a Llanelli; yr hyn oll a gludid ar gefnau ceffylau a mulod. Yn mhen rhyw dymor cymerodd Thomas Rees, Pwll y hwyaid, a Dafydd Shon, o'r Gwernllwyn-isaf, at y cytundeb a wnaethant a'r Windsors, a buont hwy yn cario'r fasnachaeth yn mlaen dros lawer o flynyddoedd, hyd nes i un o'r enw Walters, o Gaerodor, wneud cytundeb a'r ddau olaf, fod iddynt dalu chwech punt yr un yn y flwyddyn iddo am eu hawl; a thua'r flwyddyn 1748 adeiladodd yma ffwrnes tua maintioli odyn galch, pryd y daeth John Guest, yr hwn oedd dad i Thomas Guest, ac yn daid i'r diweddar Sir John Guest, barwn, yn founder at y ffwrnes hon; ond ryw fodd neu gilydd, aeth y gwaith bychan hwn i fethu ateb ei ddyben, yr hyn a gymhellodd Walters i'w werthu, a phenodwyd dydd yr arwerthiad i gymeryd lle yn Nghaerodor; a phan ddaeth y diwrnod penodedig, aeth John Guest, neu Shon Guest y founder, drosodd tua'r arwerthiad; ond yn anffodus, trodd allan fel y gellir dyweyd am dani un wedd ag y dywedwyd am broffwydi Baal, "Nid oedd llais, na neb yn ateb." Fel y penderfynodd ei gario yn mlaen eilwaith, agos ar yr un cynllun a'r blaenorol, hyd nes i un Tait, brodor o'r Alban, un o Lewisaid Dan y ddraenen, yn nghyd a John Guest, ei gymeryd oddi wrtho; yn mherchenogaeth y rhai hyn y cynyddodd ac yr ymeangodd lawer iawn. Yn y flwyddyn 1753 y gweithiwyd y ffwrnes gyntaf yn y plwyf hwn yno gan agerdd. Er fod y ffyrdd i gludo tuag at, ac i gario oddiwrth y gwaith hwn y pryd hwnw yn hynod wael yn mhob cyfeiriad. Clywsom un henafgwr yn dyweyd i'w dad weled rhyw ddarn o beirianwaith per thynol i'r gwaith hwn yn cael ei gludo o Gaerdydd gan ychain, drwy Fynwent-y-Crynwyr, ac i fyny dros Graigyfargoed, i fyned dros y mynydd tua Dowlais (mae un o'r darnau cyntaf a wnawd o haiarn yn y lle hwn i'w ganfod yn awr tu cefn i aelwyd Bedlinog), am nad allesid byth fyned a'r cyfryw beth trwy Gwm-taf, i fyned trwy Ferthyr o herwydd gerwindeb ac anwastad rwydd y ffordd. Ond er yr anfanteision hyn, yr oedd