Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/43

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yma; ac o hono ef yr oedd Mr. Richard Hill, tad y diweddar Anthony Hill, yn gwneud ei gytundeb cyntaf, cyn dechreu ar y gwaith o adeiladu. Ac wedi iddo orphen ei amod, cychwynodd ei waith o adeilada un ffwrnes, yr hon oedd yn myned dan yr enw ffwrnes-isaf; cymerodd hyn le tua'r flwyddyn 1783. Adeiladodd un drachefn, yn dra buan, cyffredin mewn maintioli, fel yr un flaenorol. Yn y cyfamser, adeiladodd yma dy iddo ei hun i gyfaneddu ynddo, yr hwn sydd ger y gwaith, lle y bu yn byw hyd ei farwolaeth, a'i fab, Anthony Hill, hyd ei flynyddoedd diweddaf. Gorphenodd ef ei yrfa yn y ty gorwych a adeiladodd rhwng y Pen trebach a'r hen dy ger y gwaith. Yn y flwyddyn 1796, llwyddodd i gael gan y gwaith hwn wneud 2,200 o dunelli o haiarn. O'r flwyddyn 1800 i'r flwyddyn 1804, adeiladodd forthwylfa yn Pentrebach a ffwrnesau y Dyffryn. Trwy offerynolaeth dwfr y gweithid y naill fel y llall; a cheid y mwn a'r glo ar y cyntaf at y ffwrnes gyntaf trwy geueddau bychain oeddynt a'u geneuau yn ochr y brif-ffordd, rhwng ty Mr. Hill a'r Gwaith. Dealler mai dyma fel oedd yr heol a arwein iai o Ferthyr i Gaerdydd yn myned yn yr hen amser. Peirianydd y forthfwylfa hon oedd Mr.Thomas Aubrey, brawd i Mr. William Aubrey, cynorthwydd Mr. Watkin George yn Ngwaith y Gyfarthfa, y rhai oeddynt yn Gymry ac yn frodorion o gymydogaeth Pontypool. Bu un olwyn mewn defnyddioldeb yn yGwaith hwn yn cael ei throi gan ddwfr dros ddeugain mlynedd, hyd nes gosod peiriant agerawl yn ei lle.

Un o'r tri glowyr a weithiodd gyntaf yma i Mr. Hill oedd Mr. Edmund Harmond, cymeriad adnabyddus yn Merthyr fel dyn a dreuliodd foreu yn gystal a phryd nawn ei oes yn gariadus, heddychol, digrif, a diniwed. Dywedir iddo gario echel yr olwyn fu yn gweithio y Gwaith dros ddau cant o latheni, er ei bod dros chwech cant pwys. Lled lew, onide ?

Yr oedd Gwaith Mr. Hill wedi dyfod i gywair erbyn y flwyddyn 1796, fel y llwyddasant i anfon yn y flwyddyn hono 2,200 o dunelli o haiarn. Erbyn y flwyddyn 1806, anfonasant 3,952 o dunelli o haiarn.