Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/54

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond heddyw onid diddan,
Edrych yn fynych i'r fan,
A chanfod masnach enfawr,
Ei thai myg a'i gweithiau mawr.
Aur a nerth ein Syr John ni,
Erioed a wnaeth fawrhydi,
Dilys ei glod-Dowlais glau
A naddodd o'r mynyddau,
A thyfodd fel gwyrth hefyd,
Ei fawr waiih yn ben: waith byd,
Wele Merthyr o'r herwydd,
Mewn bri bron fel Sidon sydd.

Chwai y rhwygir ei chreigiau—lliosog,
Arllwysir ei bryniau,
Mae acw o hyd drwm-waghan,
Ar ei bên werthfawr haenau,

Cyrau dedwydd Caerdydi,
Syn ddedwydd o'i herwydd hi,
Sainwech hyawdl ei masnach hoew—sydd,
Yn rhoi llawenydd i'w thrai a'i llanw,

Gowylia'r arwyllt ager beirianau,
I lawr trwy y tir o le'r trysorau,
A nofia wedi'n y Camlas fadau,
Heibio'n tiroedd yn dwyn mawr bentyrau,
O lo a haiarn o'u dwfn welyau,
Y fro a lethant gan ddirfawr lwythan,
Estynir y rhain dros donau'r moroedd,
Llwydion i diroedd llydain eu dorau.

Hoenus yw gweled yr hen ysgolion,
A adeiladodd er cynt i d'lodion,
Wedi'u helaethu 'n briodol weithion,
A phlant yr ardal yn cael o faelion,
Byd o addysg a phrif wybodyddion,
Hefyd i'w tywys i'w phorfeydd tewion.

Adeiladodd yn mro y deiidau,
Fawr dai newyddion-hyfryd aneddau,
I'w weithwyr hwylus ac wrth reolau.
Ef ail ystyriodd eu cyfleusderau,
Eu iechyd anwyl-a'u parch-a'u doniau,
A daeth i osod eu cymdeithasau,
Adeiliai wedy'n eu sefydliadau.

Etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros y gweithiau Haiarn a'r Trefi cymydogaethol yn ngogledd-barth Morganwg; a gwasanaethodd ei swydd yn anrhydeddus