Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/71

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

degau o fynyddoedd. Hefyd, Mr. J. Harrison Mr. Shaw, llunwyr ac arlunwyr, &c., a Mr. William Jones, cerfiwr.

Mae yn Merthyr hefyd amryw gyfreithwyr tra enwog: yn eu plith nodwn C. H. ac F. James, Simons, Morgans, Smith, Plews, &c., yn nghyd ag amryw ereill ag sydd yn troi mewn cylchoedd gwahanol, megys Harris, Lewis, &c. Hefyd, mae yma amryw feddygon medrus, megys Davies, Dyke, James, Erie, Pritchard, &c. Mae yma bellach heolydd da, yn nghyd ag amryw restrau o adeiladau gwych a adeiladwyd yn ol cynllun y Bwrdd Iechyd, y rhai ydynt i'w canfod yn Thomas Town, &c. Hefyd, nid ydyw yn ol yn ei chyfleusderau i deithwyr gyda cherbydau, yn cael eu tynu gan geffylau i bob parth o'r wlad lle nad oes cledrffordd yn arwain yno yn unionsyth. Rhoddir cyfleusdra bob boreu dydd Llun gan gerbyd yn rhedeg oddiyma heibio Trecastell, Llanymddyfri, Aberystwyth, ac Aberaeron, gan ddychwelyd yn ei ol bob dydd Gwener i Ferthyr. A chynygir cyfleusderau bob dydd i deithwyr rhwng Merthyr, Sirhowy, Nantyglo, Tredegar, Abergaveny, &c., heblaw y rhai sydd bob amser yn gweini ar y cledrffyrdd, y Taff Vale, y Vale of Neath, yn nghyd a'r Merthyr and Brecon Railway, a thua chwech o gledresau teithwyr allan bob dydd o orsaf y Taff Vale Railway i'w gwahanol gyfeiriadau; a daw yr un nifer i mewn. Cynygir hefyd dri chyfleusdra yn ddyddiol i fyned a dyfod gyda'r Vale of Neath Railway, yr hon a agorwyd i Ferthyr ar y 27ain o Chwefror, 1853. Ac ychwanegir manteision y lle hwn eto pan orphener y Merthyr and Brecon Railway, yn nghyd a'r Merthyr and Abergaveny Railway.

Eto, at y manteision a enwyd, mae yma bob math o gymdeithasau ag sydd fuddiol a llesiol i ddyn; yn eu plith gwnawn enwi yr Iforiaid, Odyddion, Coedwigwyr, Dyngarwyr, yr Urdd Frytaniaid, a Budd Gymdeithasau.

Gall dyn fyned oddiyma am un o'r gloch yn y prydnawn, a chyrhaedd Llynlleifiad erbyn amser swper yn yr hwyr. Mae trefi mawrion Cymru a Lloegr megys