Tudalen:Traethawd ar hanes Plwyf Merthyr.pdf/9

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

Wele, anturiasom ar y gorchwyl o ysgrifenu Hanes Plwyf Merthyr Tydfil, gan obeithio yr etyb ddybenion da o drosglwyddo llawer o hen hanesion a gasglasom i'r oesau a ddel, am un o'r plwyfau mwyaf nodedig ar gyfrif ei gyfoeth mwnawl ac arianol, yn nghyd a'i Haiarn Weithfeydd mawrion, sydd yn destyn siarad yma a thu draw i'r moroedd; hanes y cyfryw yn mhen canrif neu ddau eto a ddarllenir gyda mwy o syndod a dyddordeb nac yn yr oes hon. Gresyn fod y testyd hwn wedi cael ei oedi cyhyd heb ysgrifenu arno yn yr iaith Gymraeg, oblegyd yr ydys wedi colli llawer o hanes ddyddorol efallai trwy hyny o esgeulusdod. Pe buasid wedi gwneud hyn er ys tua 40 neu 50 mlynedd yn ol, cawsem fwy o fanylrwydd o barthed i'w hanesiaeth nac a geir yn bresenol gan yr awduron Seisnig. Mae i raddau yn gywilydd i'r Cymro ei fod yn gadael i'r Sais fyned heibio iddo yn hanes y fan y dygwyd ef i fyny gadael i estron ddangos mwy o wladgarwch a pharch i randiroedd dyffrynol a mynyddig gwlad ein tadau dangos mwy o genedlgarwch a serch at hanesiaeth ein henafiaid nag a ddengys ef, er ei fod yn frodor o'r lle; wedi bod yn cael ei borthi a'i noddi rhwng breichiau ei anwyl fam ar ei haelwydydd; wedi bod yn chwareu ar ei gwyrdd-dwmpathau pan yn blentyn, ac wedi cael hamdden i sugno modd o'i chreigiau i'w gynal o'i faboed i'w ddyn oed. Ond wele bellach yr ydym wedi amcanu symud y gwarth hwn oddiarnom mewn cysylltiad a'r lle hwn, trwy