Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/12

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bob gweithred o anonestrwydd a wnaeth efe erioed. Dyma yr awr wedi dyfod o'r diwedd y daeth pob ceiniog annghyf. iawn, pob hatling a ddygwyd o drais, pob dryll arian enillwyd o drachwant, i waeddi am ddial yn erbyn y trachwantwr. Pob anifail, pob dodrefnyn tŷ, a phob gwisg a ddygwyd oddiar y tlodion, oedd yn crio allan dial, dial, dial! Cwyn y tlawd a'r angenog oedd y dydd heddyw fel mynydd o bres rhyngddo a phresenoldeb Duw. Cwrlid a gwrthban yr amddifad a gymerodd efe ar wystl a ddylasai ei roi yn ol cyn machludo haul, ond a gadwodd efe yn feddiant iddo ei hun, oedd heddyw yn gwaeddi am farn yr ARGLWYDD ar y gorthrymwr. Eu cnawd hwy a oerodd yn eu gwelyau, ac a fagodd glefydau a droisant allan yn angeu, ond yn awr yn gwaeddi am wres anniffoddadwy i grasu i fyny gnawd y gormeswr, nes y byddai yn ulw. Wele ynte, druenusaf ddyn, dan yr holl wasgfeuon hyn yn gwallgofi, yn wban, ac yn rhincian danedd cyn yr amser, yn methu cael gan ei ysbryd ofnus i ymadael â'r byd, eto yn gorfod, heb flas na chalon, wneud ei ewyllys ddiweddaf, mor derfysglyd, mor annyben, ac mor ddifudd, fel pe buasai ewyllys un o dylwyth y bedlam. Ond digon tebyg fod Duw y nef wedi melldithio ei foddion, ac fel nas cafodd ef eu mwynhau hwynt yn fyw, felly nas cafodd ef eu trefnu hwynt yn ei farwolaeth ac nid i'r sawl y mynodd efe, ond i'r sawl a welodd Duw fod yn dda y rhoddwyd hwynt. Pe buasech chwi yma, fy hen gyfaill Percontator, buasai eich gliniau yn crynu y naill wrth y llall i weled dyn heb fedr, heb ffydd, heb ras, na chariad, ond yn unig o ofn marw, yn ceisio dringo i fyny at DDUW—yr hyn oedd y pryd hwn mor anhawdd iddo a phe cynygiasai fyned i'r lleuad; i weled dyn heb lygad yn ceisio edrych, heb law yn ceisio ymaflyd, ac heb dafod yn ceisio bloeddio tua'r nef.

PERCON.—Cant i un iddo foddloni ei dylwyth â'i feddianau.

CANT.—Mor belled oddiwrth hyny, fel y gyrodd ef hwynt ben—ben—rhai i lidio, rhai i genfigenu, rhai i gyfreithio y naill yn erbyn y llall; canys mor annhrefnus y cyfranodd ei feddianau, fel nad oedd y cwbl well na gwallgofrwydd. A pha fodd y gallasai wneud yn well, tan y fath ofnau digymar, y fath ddychrynfeydd cydwybod, a'r fath aethau marwolaeth ag oedd wedi ei berchenogi ef y pryd hyny? Terfysgiadau ei enaid ef oedd fel tonau y môr, yn rhuo yma a thraw, heb gael un gronyn o lonydd; dychryn ac ofn marw, a chwant byw, oedd fel gwyntoedd ystormus yn ysgwyd trwy bob cwr o'i galon; ac fel na wnaeth ddaioni yn ei fywyd, felly hefyd yn ei farwolaeth ni chai wneuthur; fe ymadawodd fel yr ynfyd a'r annoeth: i'r rhai cyfoethog y chwanegodd gyfoeth;