Tudalen:Tri Wyr o Sodom a'r Aipht.djvu/13

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ond y tlodion nis cawsant achos i'w fendithio ef; ac amryw sy'n tybied nas pery ei feddianau yn hir yn y dwylaw y rhoddodd efe hwynt, am fod llawer iawn o felldithion yr amddifaid yn gorphwys arnynt. Mae y gweddwon heddyw wedi gweled eu gwyn,[1] ac yn ei angladd nid oedd neb yn wylo; ni roddwyd ochenaid gan ddyn byw wrth ei ddodi ef yn y ddaear; y ddaear ei hunan oedd wedi blino arno; baich oedd efe i DDuw a dynion, a'i enw a annghofiwyd yn mysg y byw; ac nid oes y dydd heddyw flas son am dano: ond O, druenus gyflwr ei enaid! Pa le mae ? Nid yn gorfoleddu mewn trais, nac yn chwerthin ar ben dagrau yr amddifad, fel cynt; nid yn cludo arian fel graian i mewn i'w drysorau; ond yn absenoldeb y Duw byw yn wylo o wres, ac yn rhincian danedd o oerni; yn dyoddef poenau na ŵyr natur ddim am danynt; yn mhell, pell tu hwnt i derfyn gobaith; yn rhwym i ateb yn y dydd mawr, ac yn gwybod y farn a roir y dydd hwnw arno, ac yn arswydo rhag ei dyfod. Pan godir ei gorph o'r bedd i gael rhan o'r poenau angerddol a barotowyd i'r rhai a gasaodd DDuw yn y byd hwn, tân fydd ei wely ef yn oes oesoedd; screchfeydd damnedigion a chythreuliaid fydd y beroriaeth a swnia yn ei glustiau ef byth mwy; ni wel efe byth mo'i artref, ac ni adnebydd ef y tai a adeiladodd â thrysorau trais; trachwant a baentiodd ei ffenestri â fermilion gynt, ac awydd a grynhodd ei olud; heddyw fe'i gwasgarwyd i le ni ŵyr efe; ereill sydd yn trigo yn ei ystafelloedd, ac ereill sydd yn mwynhau holl ffrwyth ei lafur. Son am dano sydd anhyfryd—dileir ei enw o dir y rhai byw. Ac O na roddid colofn o bres yn agos i'r tŷ hwnw y bu efe yn trigfanu ynddo, yn arwydd i'r fforddolion oll fod ei ffordd ef tua dystryw, ac mai ei diwedd hi yw marwolaeth. yn arwain

PERCON.—O!'r fath dorfeydd o bob rhyw ddynion, pob gradd, pob oedran, pob llwyth, pob teulu sydd wedi cael eu gwenwyno â'r ysbryd hwn trwy y byd; er bod gair y bywyd yn gwaeddi allan mai hawsach i gamel fyned drwy grai y nodwydd ddur nag i'r goludog fyned i mewn i deyrnas DDUW, yr holl fyd sydd eto awyddus am gyfoeth—rhed dynion ar fôr ac ar dir am y cyntaf at y mammon annghyfiawn; y marsiandwr a rydd ei fywyd i drugaredd y tonau er mwyn dwyn da yr India yn ol i'w wlad ei hun; y mwnwr a gloddia i ddyfnder y ddaear, ac a edy rydion o greigydd heb rifo uwch ei ben, i gael allan yr arian gloewon o'u carcharau saith dyblyg. Y Negroes duon a soddant mewn dyfroedd dyfnion yn noeth, i gasglu graian yr aur o rhwng y llaid, ac yn fynych a gollant eu bywydau wrth gasglu golud; y toddydd sydd yn

  1. Gwyn—eu dymuniad. Wrth wyn a'i caro y del adref—May he come home agreeable to the wish of such as love him.—Dr. O. Pughe.